OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 2071 (Cy. 206)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Symiau) (Cymru) (Diwygio) 2014
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Symiau) (Cymru) 2011 (“y Prif Reoliadau”) yn rhagnodi’r symiau sylfaenol a’r symiau uwch y caiff sefydliadau perthnasol godi tâl amdanynt drwy ffioedd dysgu ar gyfer cyrsiau gradd llawnamser cymhwysol yn unol ag adran 28 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (“y Ddeddf”), sef amodau at ddibenion adran 27 o’r Ddeddf.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Prif Reoliadau.
Mae rheoliad 3 yn gwneud mân ddiwygiad i reoliad 3 o’r Prif Reoliadau. Mae’r diwygiad yn darparu bod y symiau sylfaenol a’r symiau uwch a ragnodir gan reoliad 3 yn ddarostyngedig i reoliadau 4-6.
Mae rheoliad 4 yn disodli rheoliad 4 o’r Prif Reoliadau. Mae rheoliad 4 yn rhagnodi’r symiau sylfaenol a’r symiau uwch mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd derfynol cwrs pan fo’n ofynnol i’r flwyddyn academaidd honno fel rheol gael ei chwblhau ar ôl llai na 15 wythnos o bresenoldeb ac mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos.
Mae rheoliad 5 yn mewnosod dau reoliad newydd (5 a 6) sy’n rhagnodi’r symiau sylfaenol a’r symiau uwch ar gyfer cyrsiau rhyngosod ac ar gyfer astudio a lleoliadau gwaith tramor.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 2071 (Cy. 206)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Symiau) (Cymru) (Diwygio) 2014
Gwnaed 23 Gorffennaf 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 4 Awst 2014
Yn dod i rym 31 Awst 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 28(6) a 47(5) o Ddeddf Addysg Uwch 2004([1]), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy([2]) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Symiau) (Cymru) (Diwygio) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Awst 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Symiau) (Cymru) 2011
2. Mae Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Symiau) (Cymru) 2011([3]) wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliadau a ganlyn.
3. Yn rheoliad 3 yn lle “Yn ddarostyngedig i reoliad 4” rhodder “Yn ddarostyngedig i reoliadau 4-6”.
4. Yn lle rheoliad 4 rhodder—
“Symiau sylfaenol a symiau uwch rhagnodedig ar gyfer blynyddoedd academaidd terfynol penodol cyrsiau a blynyddoedd academaidd penodol cyrsiau ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon
4. At ddiben adran 28 o Ddeddf 2004 y swm sylfaenol yw £2,000 a’r swm uwch yw £4,500 mewn cysylltiad â:
(a) blwyddyn academaidd derfynol cwrs pan fo’n ofynnol i’r flwyddyn academaidd honno fel rheol gael ei chwblhau ar ôl llai na 15 wythnos o bresenoldeb;
(b) cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon([4]) (gan gynnwys cwrs o’r fath sy’n arwain at radd gyntaf), blwyddyn academaidd pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos.”
5. Ar ôl rheoliad 4 mewnosoder—
“Symiau sylfaenol a symiau uwch rhagnodedig ar gyfer cyrsiau rhyngosod
5. At ddiben adran 28 o Ddeddf 2004 y swm sylfaenol yw £800 a’r swm uwch yw £1,800 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs rhyngosod—
(a) pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos; neu
(b) mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos.
Symiau sylfaenol a symiau uwch rhagnodedig ar gyfer astudio a lleoliadau gwaith tramor
6. At ddiben adran 28 o Ddeddf 2004 y swm sylfaenol yw £600 a’r swm uwch yw £1,350 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs a ddarperir ar y cyd â sefydliad tramor—
(a) pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu
(b) mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos.”
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
23 Gorffennaf 2014